upload documents - Upload GD

Lanlwythwch y dogfen(nau) gofynnol

Bydd rhaid i chi atodi copi pdf o'r penderfyniad a gafodd ei basio gan yr elusen i wneud y newid(newidiadau). Dylech fod yn ymwybodol y bydd y ddogfen rydych yn ei lanlwytho yn ffurfio rhan o ddogfen lywodraethol yr elusen ac felly bydd ar gael i'r cyhoedd ei gweld. Os yw'ch elusen yn SCE bydd rhaid i chi lanlwytho'r penderfyniad a'r ddogfen lywodraethol newydd.

Nawr mae angen i chi uwchlwytho copi o'r penderfyniad sy'n nodi'r newid.

Pasio penderfyniad

Os penderfynwch ddiwygio dogfen lywodraethol eich elusen, bydd angen i'ch elusen basio penderfyniad sy'n bodloni gofynion y pŵer rydych chi'n ei ddefnyddio i wneud y diwygiad.

Bydd sut rydych chi'n pasio'r penderfyniad yn dibynnu ar y pŵer rydych chi'n ei ddefnyddio a dylech sicrhau eich bod wedi dilyn y gofynion perthnasol.

Dylai'r penderfyniad fel arfer gynnwys:

  • Enw a rhif cofrestredig yr elusen;
  • Geiriad y cymalau(au) rydych chi wedi eu newid;
  • Geiriad y cymal (au) newydd sy'n cael eu hychwanegu a/neu ddisodli'r hen gymalau;
  • Y math o gyfarfod (cyffredinol/ymddiriedolwr/anghyffredin ac ati) lle cafodd y penderfyniad ei basio (neu gadarnhad o sut y cafodd y penderfyniad ei basio os yw'r pŵer a ddefnyddir yn caniatáu ichi ei basio mewn ffordd arall – e.e. penderfyniad ysgrifenedig);
  • Dyddiad y cyfarfod/penderfyniad;
  • Y pŵer a ddefnyddir i wneud y newid, er enghraifft a oedd y pŵer yn nogfen lywodraethu'r elusen neu yn dod o'r gyfraith;
  • Cadarnhad bod y penderfyniad wedi'i basio gan y cworwm oedd ei angen i wneud penderfyniadau;
  • Datganiad eich bod wedi dilyn unrhyw amodau ychwanegol a nodir yn eich dogfen lywodraethol;
  • Dylai'r penderfyniad hefyd gael ei lofnodi a'i ddyddiad.