test

 

Datganiad hygyrchedd i wasanaethau digidol y Comisiwn Elusennau ar gyfer Lloegr a Chymru

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn ar gyfer gwasanaethau digidol y Comisiwn Elusennau, sy’n cynnwys y canlynol:

  • Datganiad Ariannol Blynyddol;
  • Diweddaru Manylion yr Elusen;
  • Newid cyfnod ariannol yr elusen;
  • Newid dogfen lywodraethu’r elusen, a
  • Newid enw’r elusen.

Cynhelir y gwasanaethau digidol gan y Comisiwn Elusennau. Rydym am i gynifer o bobl ag sy’n bosibl fod yn gallu defnyddio’r gwasanaethau. Er enghraifft, mae hynny’n golygu dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrîn (heb gynnwys testun o fewn fformat tabl)
  • llywio’r rhan fwyaf o’r gwasanaeth gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r gwasanaeth gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni fydd y testun yn ail-lifo pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr
  • nid oes gan rai tablau benynnau rhes
  • mae gan rai tudalennau gyferbynnedd lliw nad ydynt yn bodloni safonau WCAG
  • nid oes gan rai delweddau destun amgen da
  • ni nodir rhai botymau’n gywir

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol, gallwch ein ffonio ar 0300 066 9197 neu gwblhau'r ffuflen ymholiadau a dweud wrthym:

  • gyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a chyfeiriad e-bost

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn eich ateb o fewn 7 niwrnod.

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau na restrir ar y dudalen hon neu eich bod yn meddwl nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni..

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol ) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os na fyddwch yn hapus ynghylch sut y byddwn yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymgynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb yn ymrwymo y bydd yn gwneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

  • ni chyhoeddir y dialog yn awtomatig sy’n hysbysu defnyddwyr y bydd eu sesiwn yn dod i ben neu wrth gadarnhau canslo trafodiad ar y dangosfwrdd i ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar ddarllenwyr sgrîn. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 4.1.2 (enw, rôl, gwerth) WCAG 2.1.
  • mae gan rywfaint o destun a botymau gyferbynnedd lliw nad yw’n bodloni safonau WCAG. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.4.11 (cynnwys heb fod yn destun) WCAG 2.1.
  • mae elfennau addasu, megis acordionau, yn anodd i'w defnyddio ar rai tudalennau ar gyfer pobl sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 4.1.2 (enw, rôl, gwerth) WCAG 2.1.
  • nid yw rhai tablau wedi’u nodi’n gywir â phenynnau tabl. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) WCAG 2.1.
  • nid oes labeli gan rai botymau sy’n disgrifio pwrpas y botwm. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) WCAG 2.1.
  • ni ddiffinnir pob tirnod ar draws tudalennau a brofwyd. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) WCAG 2.1.
  • mae rhai lefelau pennawd wedi’u neilltuo’n anghywir neu ar goll. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) WCAG 2.1.
  • ni fydd rhywfaintogynnwys a swyddogaeth yn ail-lifo pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.4.4 (ailfeintio testun) a 1.3.10 (ail-lifo) WCAG 2.1.
  • mae angen arddull ychwanegol ar rai botymau radio i wneud y dangosydd ffocws yn fwy amlwg. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 2.4.7 (ffocws gweladwy) WCAG 2.1.
  • mae’r priodoledd awtogyflawn wedi’i neilltuo fel un wedi’i ddiffodd ar gyfer meysydd ffurf enw cyntaf, cyfenw a chyfeiriad e-bost. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.3.4 (nodi pwrpas cyffredin) WCAG 2.1.
  • mae'r blwch gwirio ar gyfer y datganiad wedi’i labelu’n anghywir. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) WCAG 2.1.
  • ni chyhoeddir rhai negeseuon gwall. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 3.3.1 (nodi gwallau) ac 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) WCAG 2.1.
  • ni ddefnyddir rhestrau i ddosbarthu cynnwys yn grwpiau ar dudalen. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) WCAG 2.1.
  • ffocws bysellfwrdd anghyson ar rai tudalennau. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 2.4.3 (trefn ffocws) WCAG 2.1.
  • nid yw rhai botymau radio a blychau ticio wedi’u dosbarthu mewn grŵp set-maes. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) WCAG 2.1.
  • nid oes gan rai delweddau destun amgen clir, felly nid yw’r wybodaeth sydd ynddynt ar gael i bobl sy’n defnyddio darllenydd sgrîn. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.1.1 (cynnwys nad yw’n destun) WCAG 2.1.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas rheoliadau hygyrchedd

Mae rhai dolenni i ganllawiau sy’n helpu defnyddwyr i gwblhau ein gwasanaethau digidol. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni gywiro cynnwys trydydd parti nad ydym wedi’i ddatblygu ein hunain - er enghraifft, dolenni i ganllawiau ar wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

 

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym wedi cofnodi’r materion hyn yn ein hôl-groniad a byddwn yn eu trafod fel rhan o’n llif gwaith arferol. Ein nod yw gwneud y gwasanaethau digidol yn gwbl hygyrch cyn gynted â phosibl.

 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 2 Medi 2020. Fe’i diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Medi 2020.

Profwyd y gwasanaethau digidiol ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2018. Cynhaliwyd y prawf gan Nomensa.

Cynhaliwyd archwiliad ar sampl cynrychiadol o dudalennau a theithiau defnyddwyr o bob un o’n gwasanaethau digidol. Cynhaliwyd yr archwiliad ar fwrdd gwaith cyfrifiadur personol gan ddefnyddio Google Chrome.