Standard declaration - Amendments
Rwy'n cadarnhau:
- Rwyf wedi fy awdurdodi gan ymddiriedolwyr yr elusen i wneud y newid hwn;
- Naill ai mae gan yr elusen y pŵer i wneud y newid o dan delerau'r ddogfen lywodraethol neu bŵer a ddarperir gan y gyfraith (e.e. Deddf Elusennau 2011 fel y'i diwygiwyd) neu mae'r elusen yn mynnu awdurdod y Comisiwn oherwydd bod y ddogfen lywodraethol yn gwahardd gwneud y newid.
- Os yw'r elusen wedi defnyddio pŵer yn ei dogfen lywodraethol i wneud y newid, mae'r elusen wedi dilyn unrhyw ofynion penodol yn y ddogfen lywodraethol ynghylch gwneud penderfyniadau a chynnal cyfarfodydd.
- Os yw'r elusen wedi defnyddio pŵer a ddarperir gan y gyfraith i wneud y newidiadau (e.e. pŵer statudol diwygio elusennau anghorfforedig neu bŵer diwygio cyfraith cwmnïau) mae'r elusen wedi dilyn gofynion y pŵer hwnnw ynghylch gwneud penderfyniadau a chynnal cyfarfod.
- Mae'r wybodaeth rwyf wedi'i chyflwyno yn y gwasanaeth hwn yn wir ac yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth; ac
- Rwyf wedi darllen hysbysiad preifatrwydd y comisiwn elusennau – sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol