Small charity Object guidance

Rydych wedi cadarnhau nad oes tir neu eiddo dynodedig gan yr elusen a naill ai mae cofnodion y comisiwn yn dangos bod incwm yr elusen yn llai na £10,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, neu rydych chi wedi cadarnhau hyn. Mae hyn yn golygu y gall yr elusen ddefnyddio adran 275 o Ddeddf Elusennau 2011 i wneud newidiadau i ddibenion yr elusen.

Gall y comisiwn wrthwynebu'r penderfyniad:

  • os nad yw'r ymddiriedolwyr wedi dilyn y broses briodol ar gyfer gwneud penderfyniad; neu
  • os yw'r ymddiriedolwyr heb sicrhau bod y dibenion newydd yn elusennol neu'n cynnwys dibenion sy'n debyg o ran cymeriad i'r rhai sy'n cael eu disodli fel y bo'n rhesymol ymarferol.

Os nad yw'r comisiwn yn gwrthwynebu, daw'r penderfyniad i rym 60 diwrnod ar ôl i'r comisiwn ei dderbyn.  Gall y comisiwn hefyd gyfarwyddo y dylid rhoi hysbysiad cyhoeddus neu fod angen rhagor o wybodaeth.

Ni ddylech ddefnyddio'r dibenion diwygiedig hyd nes bod y gofrestr elusennau wedi'i diweddaru