No power to make change

Dim pŵer i wneud y newid

Rydych wedi dweud wrthym eich bod am newid dogfen lywodraethol eich elusen ond nad oes gennych y pŵer i wneud hynny yn eich dogfen lywodraethol, ac na allwch neu nad ydych am ddibynnu ar y pŵer a ddarperir gan a.280A o Ddeddf Elusennau 2011 (fel y'i diwygiwyd).

Dylai'r rhan fwyaf o elusennau allu defnyddio'r pŵer a ddarperir yn y Ddeddf Elusennau hyd yn oed pan nad yw'r ddogfen lywodraethol yn cynnwys pŵer neu'n cyfyngu ar welliannau. Os nad ydych yn siŵr a all eich elusen ddefnyddio'r pŵer hwn ai peidio, dylech ddarllen ein canllawiau ac, os oes angen, cymerwch gyngor cyfreithiol eich hun.

Os na allwch ddefnyddio'r pŵer a ddarperir yn y Ddeddf Elusennau, ar ôl gwneud hynny, bydd angen i chi gysylltu â ni ar wahân drwy ein gwefan.