Name not OK - Name checker
Mae'r enw a roesoch naill ai'n enw dyblyg neu'n debyg i enw sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn y gofrestr elusennau a/neu mae'n cynnwys gair neu ymadrodd sy'n dramgwyddus ym marn y Comisiwn Elusennau.
Dylai'r ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol y gall y Comisiwn Elusennau wrthwynebu enw os yw un neu ragor o'r darpariaethau yn adran 42(2) o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys iddo, ond bydd hyn yn dibynnu ar asesiad o'r risgiau o niwed a/neu ddryswch cyhoeddus. Os yw'r ymddiriedolwyr yn penderfynu parhau ac yn gwneud cais i nodi'r enw hwn ar y gofrestr elusennau dylech roi manylion am y rhesymau er mwyn i'r Comisiwn allu gwneud penderfyniad ar y risg.
- Y cyhoedd yn camgymryd un elusen am elusen arall. Bydd y risg o'r cyhoedd yn drysu rhwng dwy elusen fach gyda'r union yr un enw sydd ag amcanion gwahanol ac sy'n gweithredu yn lleol iawn mewn ardaloedd daearyddol gwahanol (ac unrhyw niwed, colled neu ddifrod dilynol) yn is nag os yw'r un enw yn cael ei ddefnyddio gan elusen genedlaethol ac elusen ranbarthol, neu gan ddwy elusen genedlaethol, neu gan ddwy elusen lai sy'n gweithredu yn yr un ardal ddaearyddol neu sydd ag amcanion tebyg iawn. Er enghraifft, pe bai'r un enw gan elusen genedlaethol a rhanbarthol ceir risg y gall y bobl sy'n byw yn yr ardal ddaearyddol a gwmpasir gan yr elusen ranbarthol roi neu adael arian ar gam mewn ewyllys i'r elusen genedlaethol, er eu bod wedi bwriadu cefnogi'r elusen ranbarthol. Mae'n amlwg os yw prif enw newydd elusen yr un fath ag enw elusen sydd â phroffil uchel bydd risg uchel o'r cyhoedd yn drysu.
- Buddiolwyr presennol neu ddarpar fuddiolwyr yr elusen arall o dan anfantais oherwydd bod rhaid iddynt ddefnyddio enw gwahanol. (Er enghraifft, gallai buddiolwyr ei chael hi'n anodd i gael gwybod pa elusen yw'r un gorau i ateb eu hanghenion.)
- Anghydfod sy'n codi ynghylch defnyddio'r enw (e.e. yr elusen arall sydd â'r un prif enw eisoes yn y Gofrestr Elusennau yn dadlau na ddylai'r elusen mwy newydd ddefnyddio'r un enw).
Ystyrir bod enw yn dramgwyddus os yw'n:
- aflednais neu'n cynnwys geiriau neu ymadroddid yr ystyrir yn gyffredinol eu bod yn sarhaus
- defnyddio llythrennau cyntaf sy'n ffurfio gair neu eiriau aflednais (h.y. acronym aflednais) neu fyrfoddau sy'n edrych fel geiriau sarhaus
- defnyddio symbolau sydd i'w gweld eu bod yn cymryd lle geiriau neu ymadroddion sarhaus
- dirmygu crefydd neu dduwdod neu unrhyw unigolyn, dosbarth neu grŵp o fewn cymdeithas
- dirmygu neu'n gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn pobl ar sail eu tras ethnig neu hiliol, rhyw, nam corfforol neu feddyliol neu anfantais arall, neu unrhyw nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- dirmygu pobl, neu wahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn pobl ar sail lliw eu croen
- dangos gwahaniaethu afresymol neu fympwyol yn erbyn unigolyn, dosbarth neu grŵp arall o fewn cymdeithas
- dangos bod yr elusen yn cefnogi neu'n ymgymryd â gweithgareddau anfoesol, troseddol neu anghyfreithiol
- cynnwys geiriau neu symbolau heb fod yn rhai Saesneg, boed yn eu hiaith wreiddiol neu (os cânt eu cyfieithu) yn Saesneg, a fyddai wedi'u cynnwys o fewn unrhyw un o'r pwyntiau uchod.