Name Change Sensitive names Guidance Companies

Newid enw ar gyfer cwmnïau elusennol

 

Rhaid i gwmnïau elusennol gysylltu â Thŷ'r Cwmnïau cyn y gallant newid enw’r cwmni. Bydd y mwyafrif helaeth o ymgeiswyr yn medru cofrestru eu henwau dewisol, ond y mae rhai cyfyngiadau a gall effeithio ar y dewis enw. Mae'r cyfyngiadau hyn wedi'u nodi yn y Ddeddf Cwmnïau 2006,  Rheoliadau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Enwau a Datgeliadau Masnachu) 2015 (OS 2015/17) a’r Rheoliadau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Geiriau ac Ymadroddion Sensitif) 2014 (OS 2014/3140).

 

Ni fyddwch yn gallu defnyddio'r gwasanaeth hwn i ddweud wrthym am newid enw. Mae angen ichi ddweud wrthym am y newid gan ddefnyddio ein ffurflen ymholiadau.