How will you manage conflict of interests?
Sut byddwch chi'n rheoli gwrthdaro buddiannau?
Mae dyletswydd gyfreithiol gan bob ymddiriedolwr i weithredu er lles gorau ei elusen yn unig. Pan fydd un neu ragor o ymddiriedolwyr yn cael taliadau neu fuddion gan yr elusen gall gwrthdaro buddiannau godi, ac mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ymateb yn effeithiol i hyn.
Nid yw bodolaeth gwrthdaro buddiannau yn bwrw amheuaeth ar unplygrwydd yr ymddiriedolwr a effeithir, ar yr amod ei fod yn cael sylw priodol.
Esboniwch pa gamau y bydd yr ymddiriedolwyr yn eu cymryd i sicrhau bod y gwrthdaro yn cael ei reoli'n briodol, gan gynnwys manylion am unrhyw bolisi gwrthdaro buddiannau sydd gennych.