Dissolution Clause - no members
Cymal Diddymu – dim aelodau
(1) Gall yr ymddiriedolwyr ddiddymu'r elusen os ydynt yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol neu'n ddymunol i wneud hynny. Er mwyn cael ei weithredu, rhaid i gynnig i ddiddymu'r elusen gael ei basio mewn cyfarfod arbennig gan fwyafrif o ddwy ran o dair o'r ymddiriedolwyr. Rhaid i unrhyw asedau'r elusen sy'n weddill ar ôl talu dyledion yr elusen ('yr asedau net') gael eu rhoi:
(a) i elusen arall (neu elusennau eraill) sydd ag amcanion sydd yr un fath neu'n debyg i amcanion yr elusen ei hun, at ddibenion cyffredinol yr elusen (neu elusennau) sy'n eu derbyn; neu
(b) i unrhyw elusen i'w defnyddio at ddibenion penodol sydd wedi'u cynnwys o fewn amcanion yr elusen.
(2) Rhaid hysbysu'r Comisiwn yn brydlon pan fydd yr elusen wedi cael ei diddymu ac, os oedd yn ofynnol i'r ymddiriedolwyr anfon cyfrifon yr elusen i'r Comisiwn ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu a ddiweddodd cyn ei diddymu, mae'n rhaid iddynt anfon cyfrifon terfynol yr elusen i'r Comisiwn.