Dissolution Clause - members
Cymal Diddymu – aelodau
(1) Os yw'r aelodau yn penderfynu diddymu'r elusen bydd yr ymddiriedolwyr yn parhau yn y swydd fel ymddiriedolwyr elusen ac yn gyfrifol am ddirwyn materion yr elusen i ben yn unol â'r cymal hwn.
(2) Rhaid i'r ymddiriedolwyr gasglu holl asedau'r elusen a rhaid iddynt dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer holl rwymedigaethau'r elusen.
(3) Rhaid i'r ymddiriedolwyr ddefnyddio unrhyw eiddo neu arian sy'n weddill:
(a) yn uniongyrchol ar gyfer yr amcanion;
(b) ei drosglwyddo i unrhyw elusen neu elusennau ar gyfer yr un dibenion â'r elusen neu ddibenion tebyg;
(c) mewn rhyw ffordd arall y gall y Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr ('y Comisiwn') ei chymeradwyo yn ysgrifenedig ymlaen llaw.
(4) Gall yr aelodau basio penderfyniad cyn neu ar yr un pryd â'r penderfyniad i ddiddymu'r elusen sy'n pennu sut y bydd yr ymddiriedolwyr yn defnyddio eiddo neu asedau'r elusen sy'n weddill a rhaid i'r ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r penderfyniad os yw'n cyd-fynd â pharagraffau (a) – (c) yn is-gymal (3) uchod.
(5) Ni fydd asedau net yr elusen yn cael eu talu neu eu dosbarthu i aelodau'r elusen mewn unrhyw amgylchiadau (ac eithrio i aelod sy'n elusen ei hun).
(6) Rhaid i'r ymddiriedolwyr hysbysu'r Comisiwn yn brydlon bod yr elusen wedi cael ei diddymu. Os yw'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr anfon cyfrifon yr elusen i'r Comisiwn ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu a ddiweddodd cyn ei diddymiad, rhaid iddynt anfon cyfrifon terfynol yr elusen i'r Comisiwn.