Date of meeting - CIO Amendments

Rhowch ddyddiad y newid

Dyma'r dyddiad a fydd yn cael ei gofnodi ar y gofrestr gyhoeddus o elusennau.

Mae angen i chi ddweud wrthym ar ba ddyddiad y daeth y newid i rym. Mae'r dyddiad y daw newid i rym yn dibynnu ar y math o newid. Os nad oes angen awdurdod ar y newid, bydd yn dod i rym ar naill ai:

  • y dyddiad y mae aelodau eich elusen yn cymeradwyo penderfyniad yr aelodau, neu
  • ar ddyddiad diweddarach y byddwch yn ei nodi ym mhenderfyniad eich aelodau.

Os oes angen awdurdod ar y newid, bydd yn dod i rym ar naill ai:

  • y dyddiad y mae wedi'i gofrestru â'r Comisiwn Elusennau; neu
  • ddyddiad diweddarach y byddwch yn ei nodi ym mhenderfyniad eich aelodau y mae’n rhaid iddo fod ar ôl i’r Comisiwn gofrestru’r newid.

Ni allwch gofrestru newidiadau rheoleiddiedig nes bod y Comisiwn yn rhoi ei awdurdod ar gyfer y newid.

Drwy barhau rydych yn cadarnhau bod y newid wedi’i wneud yn unol â gofynion eich dogfen lywodraethu a/neu’r pwerau statudol perthnasol. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ychwanegol ar wneud y newid ar ein gwefan: Newid dogfen lywodraethol eich elusen (CC36)