CIO Sensitive names guidance CIO

Newidiadau enw ar gyfer Sefydliadau Corfforedig Elusennol

 

Mae'ch elusen yn sefydliad corfforedig elusennol. Os yw'ch enw newydd yn cynnwys gair neu ymadrodd sensitif, rhaid i chi geisio cymeradwyaeth Tŷ'r Cwmnïau yn gyntaf cyn defnyddio'r gwasanaeth hwn. Gweler Rheoliadau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Enwau a Datgeliadau Sensitif) 2014. Yr eithriad yw hyn yw pan fydd y gair sensitif yn 'elusen', 'elusennol', 'cymdeithas', 'sefydliad' neu 'ymddiriedolaeth', ac yn yr achos hwnnw ni fydd angen caniatâd Tŷ'r Cwmnïau.

Os yw'r enw newydd yn awgrymu cysylltiad â'r Llywodraeth, megis adran o'r llywodraeth, gweinyddiaeth ddatganoledig, awdurdod lleol neu awdurdod cyhoeddus, fel y pennwyd gan Reoliadau Cwmnïau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Enwau a Datgeliadau Masnachol) 2015, rhaid i chi gael cymeradwyaeth Tŷ'r Cwmnïau yn gyntaf cyn defnyddio'r gwasanaeth hwn.

 

Ni fyddwch yn gallu defnyddio'r gwasanaeth hwn i ddweud wrthym am newid enw. Mae angen ichi ddweud wrthym am y newid gan ddefnyddio ein ffurflen ymholiadau.