Charitable companies objects guidance
Newid dibenion eich elusen
Mae'n rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn Elusennau i newid dibenion eich elusen.
Mae Deddf Elusennau 2022 wedi newid y prawf cyfreithiol yr ydym yn ei gymhwyso wrth ystyried ceisiadau am awdurdod.
Rhaid i'r Comisiwn roi sylw i:
- dibenion y cwmni pan gafodd ei sefydlu, os ac i'r graddau y gellir eu canfod yn rhesymol,
- dymunoldeb sicrhau bod dibenion y cwmni, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, yn debyg i'r dibenion sy'n cael eu newid, ac
- yr angen i'r cwmni gael dibenion sy'n addas ac yn effeithiol yng ngoleuni amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd cyfredol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei ddweud wrthym yn ein canllawiau.