Manylion Am Gwcis ar Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau

Mae’r Comisiwn Elusennau’n defnyddio ‘cwcis’ i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau. Dysgwch fwy am y cwcis rydym yn eu defnyddio, beth yw eu diben a phryd maent yn dod i ben.

Rydym yn defnyddio dau fath o gwci:

  • Cwcis sy’n mesur defnydd gwefan
  • Cwcis sy’n hollol angenrheidiol

Mae pob cwci yn:

  • gwci sesiwn, mae’r math hwn o gwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr, neu
  • cwci parhaus, mae'r math hwn o gwci yn para'n hirach ac yn dod i ben ar ôl cyfnod penodol o amser

Cwcis sy'n Mesur Defnydd Gwefan

Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics (Universal Analytics) i gasglu gwybodaeth ddienw am sut rydych yn defnyddio Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau. Rydym yn gwneud hyn i helpu sicrhau bod ein gwasanaethau a’n gwefan yn bodloni anghenion eu defnyddwyr ac i'n helpu i wneud gwelliannau.

Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu'r data am sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau gyda thrydydd partïon

Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth am:

  • y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw
  • faint o amser rydych chi'n ei dreulio ar bob tudalen
  • sut wnaethoch chi gyrraedd y gwasanaeth
  • beth rydych chi'n ei glicio tra byddwch yn ymweld â'r safle a/neu'n defnyddio'r gwasanaeth
  • pa ddolenni rydych yn eu hagor mewn e-byst gennym ni

Mae'r data rydym yn ei gasglu ar ymddygiad defnyddwyr yn cael ei ddefnyddio gennym ni i wella ein gwasanaethau. Er enghraifft, fel eu bod yn hawdd eu deall, yn hygyrch ac yn cyflawni eu swyddogaeth. Rydym yn cadw’r data am hyd at 2 flwyddyn i’r diben hwn. Mae’r cyfnod hwn yn rhedeg o’r pwynt olaf pan gyrchwyd y dudalen we. Nid oes unrhyw ddata o gwcis a allai eich adnabod, megis cyfeiriadau IP, yn cael eu casglu gan Gomisiwn Elusennau Lloegr a Chymru.

Mae Google Analytics yn gosod y cwcis canlynol.

Enw Pwrpas Dod i Ben

_gid

Cwci Google Analytics a ddefnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr mewn gweithgaredd pori

24 awr

_ga

Cwci Google Analytics a ddefnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr mewn gweithgaredd pori

2 flynedd

_gat

cwci Google Analytics a ddefnyddir i gyfyngu ar ganran y ceisiadau

1 munud

_gat_UA

Cwci Google Analytics a ddefnyddir i gyfyngu ar ganran y ceisiadau

1 munud

Yn ogystal, os ydych yn rhannu dolen i dudalen ar ein gwasanaethau, efallai y bydd y gwasanaeth rydych yn ei rannu arno (er enghraifft, Facebook) yn gosod cwci. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gwcis a osodir gan wefannau eraill - efallai y gallwch eu diffodd, ond nid trwyddom ni.

Cwcis Hollol Angenrheidiol

Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi swyddogaethau craidd megis diogelwch, rheoli rhwydwaith, a hygyrchedd Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau. Rydym yn defnyddio'r cwcis angenrheidiol canlynol:

Enw Pwrpas Dod i Ben

GUEST_LANGUAGE_ID

Mae hwn yn gosod yr iaith rydych yn edrych ar y wefan ynddi (Cymraeg neu Saesneg)

1 flwyddyn

LFR_SESSION_STATE_20105

Cwci sesiwn defnyddiwr yw hwn, lle mai XXXXX yw'r ID defnyddiwr. Fe ddefnyddir ar gyfer adnabod sesiynau defnyddwyr, dilysu defnyddwyr, cofio dewis iaith y defnyddiwr, ac ar gyfer rheoli sesiynau defnyddwyr.

Pan fyddwch yn cau eich porwr

JSESSIONID

Defnyddir i gynnal sesiwn defnyddiwr dienw gan y gweinydd.

Pan fyddwch yn cau eich porwr

ApplicationGatewayAffinity

ApplicationGatewayAffinity Defnyddir ar gyfer cynnal sesiynau defnyddwyr. Mae'r cwci hwn yn cael ei osod gan y wefan hon gan ei fod yn rhedeg ar lwyfan cwmwl Windows Azure. Mae'n galluogi traffig porwr gwe i gael ei gadw wedi'i neilltuo i weinydd sengl yn ystod rhai adrannau o'r wefan.

Pan fyddwch yn cau'ch porwr

ApplicationGatewayAffinityCORS

Defnyddir y cwci hwn gan Borth Application Windows Azure yn ogystal â ApplicationGatewayAffinity i gynnal sesiwn gludiog hyd yn oed ar geisiadau traws-darddiad (gwybodaeth a dderbyniwyd o adnodd ag enw parth gwahanol).

Pan fyddwch yn cau'ch porwr

COMPANY_ID

Defnyddir hwn gan lwyfan gwe Liferay. Fe ddefnyddir i'ch adnabod wrth i chi symud rhwng gwahanol dudalennau'r wefan fel nad oes angen i chi fewngofnodi bob tro y byddwch yn symud i dudalen newydd.

Pan fyddwch yn cau'ch porwr

ID

Defnyddir hwn gan lwyfan gwe Liferay. Fe ddefnyddir i'ch adnabod wrth i chi symud rhwng gwahanol dudalennau'r wefan fel nad oes angen i chi fewngofnodi bob tro y byddwch yn symud i dudalen newydd.

Pan fyddwch yn cau'ch porwr

Neges cwcis

Efallai y gwelwch faner pan fyddwch yn ymweld â Chyfrif Fy Nghomisiwn Elusennau yn eich gwahodd i dderbyn cwcis neu adolygu eich gosodiadau. Byddwn yn gosod cwcis fel bod eich cyfrifiadur yn gwybod eich bod wedi’i weld ac i beidio â'i ddangos eto, a hefyd i storio eich gosodiadau.

Enw Pwrpas Dod i ben

CWCI_SUPPORT

Mae hwn yn storio'r dewisiadau a ddewiswch yn ystod pori'r we

1 blwyddyn

cwci_consent

TMae hyn yn arbed eich gosodiadau caniatâd cwci

1 blwyddyn

Cwcis a gesglir gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth

Mae gwefan GOV.UK, y mae Gwasanaethau Digdiol y Llywodraeth (GDS) yn gyfrifol amdano, yn lletya holl gynnwys a chanllawiau’r Comisiwn Elusennau ac mae hefyd yn defnyddio meddalwedd Google Analytics. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol ar y data a gesglir gan GDS yn eupolisi cwcis..

Dysgwch fwy am wybodaeth preifatrwydd gan Google Analytics.

Dysgwch fwy gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am sut i reoli cwcis..

Newid eich gosodiadau

Gallwch newid pa gwcis rydych yn hapus i ni eu defnyddio.